Welsh - 5.2 - Innovation at RWE
Springpod Team
Created on July 2, 2024
More creations to inspire you
SITTING BULL
Horizontal infographics
10 SIGNS A CHILD IS BEING BULLIED
Horizontal infographics
BEYONCÉ
Horizontal infographics
ALEX MORGAN
Horizontal infographics
ZODIAC SUN SIGNS AND WHAT THEY MEAN
Horizontal infographics
GOOGLE - SEARCH TIPS
Horizontal infographics
OSCAR WILDE
Horizontal infographics
Transcript
Deunyddiau cyfansawdd
Ynni gwynt arnofiol
Gwrthsefyll cyrydiad
Ynni gwynt ar y môr a dronau
Ynni hydrogen ar y môr
Bydd mwy am hyn yn nes ymlaen yn y modiwl!
Mae cyrydiad ym mhobman, o arwynebau gwresogi generaduron stêm i adeileddau dur tyrbinau gwynt. Er mwyn amddiffyn yn effeithiol rhag cyrydiad, mae angen dealltwriaeth drwyadl o brosesau cyrydu.Sut mae ymchwilwyr yn ymchwilio i gyrydiad yng Nghanolfan Arloesedd cwmni ynni gwynt ar y môr RWE?Maent yn cynnal ymchwiliad trylwyr i brosesau cyrydu a mesurau priodol i'w lleihau. Mae ymchwilwyr hefyd yn profi caenau newydd am gyrydiad ar dymereddau uchel ac yn asesu caenau ar gyfer amddiffyn rhag cyrydiad mewn dŵr môr. Mae profion cyrydiad yn bwysig, yn enwedig ar gyfer tyrbinau gwynt, am eu bod yn dod i gysylltiad ag amodau amgylcheddol garw.Gall cyrydiad effeithio ar gyfanrwydd adeileddol cydrannau tyrbin, fel tyrau, sylfeini, a llafnau.Mae archwiliadau rheolaidd yn helpu i ddod o hyd i broblemau cyrydiad a mynd i’r afael â nhw, gan sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch cyffredinol y tyrbin.
Mae hydrogen yn elfen naturiol sydd ar gael ar y Ddaear mewn symiau sydd bron yn ddi-ben-draw!Ar y cyd â Neptune Energy, bydd RWE yn datblygu prosiect ynni hydrogen ar y môr a gaiff ei adeiladu ochr yn ochr â ffermydd ynni gwynt ar y môr y cwmni.Enw'r prosiect yw H2opZee, ac mae ar y camau cynnar ar hyn o bryd; y nod yw defnyddio pŵer gwynt ar y môr i weithredu electroleiddwyr sydd â'r gallu i gynhyrchu rhwng 300 a 500 megawat o ynni hydrogen gwyrdd ymhell allan ar y môr.Mae H2opZee yn gam sylweddol ymlaen tuag at gynhyrchu ynni hydrogen ar y môr ac atebion ynni cynaliadwy ar raddfa fawr.Edrychwch i weld pam mae hydrogen mor werthfawr yn y sector ynni adnewyddadwy drwy glicio ar y botwm chwarae.Electroleiddwyr – dyfeisiau sy'n defnyddio trydan i ddadelfennu moleciwlau dŵr (H2O) yn hydrogen (H2) ac ocsigen (O2) drwy broses o’r enw electrolysis.
Er mwyn cadw golwg ar iechyd tyrbinau gwynt, yr arfer bresennol yw i lafnau rotor gael eu harchwilio â llaw gan griwiau a gaiff eu hanfon allan i ffermydd gwynt ar y môr ar gwch neu long.Rhaid i’r tyrbinau gael eu hatal yn ystod yr archwiliad, wrth i’r technegwyr fwrw golwg dros gyflwr y llafnau. Yn anochel, bydd hyn yn golygu na fydd y tyrbin yn gallu cynhyrchu ynni glân am gyfnod.Mae RWE, DTU Wind and Energy Systems a Quali Drone wedi cydweithio â'i gilydd i ddod o hyd i ateb uwch-dechnoleg o'r radd flaenaf sy'n cyfuno technoleg dronau newydd â deallusrwydd artiffisial er mwyn archwilio llafnau tyrbinau gwynt ar y môr – a hynny i gyd tra bydd y llafnau'n dal i droi!Mae’r partneriaid eisoes wedi datblygu’r algorithmau sy'n gallu helpu’r drôn i ganfod unrhyw ddifrod ar wyneb y llafn a chraciau posibl o dan yr wyneb. Ar y drôn, mae camera thermol sy'n gallu sganio’r haenau o dan yr wyneb er mwyn dod o hyd i ddifrod, sef rhywbeth na ellir ei wneud drwy ddilyn arferion presennol y diwydiant, sef archwilio â llaw.Mae AQUADA-GO wedi cael cyllid gan y Rhaglen Datblygu ac Arddangos Technoleg Ynni a bydd ar waith tan 2025. Mae'r ateb arloesol hwn yn mynd i’r afael â sawl her ac yn golygu y bydd modd symleiddio gwasanaethau ynni glân yn RWE a'u gwneud yn fwy effeithlon.
Caiff deunyddiau cyfansawdd fel plastig wedi'i atgyfnerthu â gwydrffibr (gwydr ffibr) eu defnyddio'n eang yn y diwydiant ynni gwynt ar y môr ar gyfer amrywiaeth o gydrannau ac adeileddau oherwydd eu priodweddau ffafriol.Er enghraifft, caiff gwydr ffibr ei ddefnyddio i weithgynhyrchu llafnau tyrbinau, adeiladu’r naselau, llwyfannau a mwy!Oherwydd adeiledd penodol gwydr ffibr, bydd difrod yn aml yn digwydd yn ddirybudd. Ar hyn o bryd, dim ond hyn a hyn o gyfleoedd sydd i fonitro cyflwr adeileddol y cydrannau hyn.Er mwyn gwrthsefyll hyn, mae ymchwilwyr a datblygwyr yn y Ganolfan Arloesedd wedi datblygu system monitro iechyd adeileddol ar gyfer cydrannau gwydr ffibr mewn gorsafoedd pŵer confensiynol a thyrbinau gwynt. Mae hyn yn eu galluogi i ganfod arwyddion cynnar o ddifrod ac asesu i weld faint o oes gwasanaethu sy'n weddill.