Want to create interactive content? It’s easy in Genially!

Reuse this genially

Yr Awyr Dywyll - Darllen a Deall

Luned Hughes

Created on March 24, 2024

Start designing with a free template

Discover more than 1500 professional designs like these:

Transcript

6.GWYLIWCH A THRAWSIEITHWCH Y FIDEO

4. PAM EU BOD YN BWYSIG I NI?

5. SUT I WARCHOD EIN HAWYR DYWYLL

1. Beth yw gwarchodfa awyr dywll?

2.Pam eu bod mor bwysig?

3.BETH WELWCH CHI YNO?

Cliciwch ar bob rhif i ddarganfod mwy...

Yr Awyr Dywyll

  • Mae 3 Gwarchodfa Awyr Dywyll yng Nghymru!
  • Mae'r Parc Cenedlaethol yn 2,132km sgwâr!
  • Gallwch weld dros 1,000 o sêr ar noson glir yn Eryri!

A WYDDOCH CHI?

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gartref i un o'r 21 GWARCHODFA AWYR DYWYLL yn y byd! Mae hyn yn golygu eu bod yn lefydd sydd yn gweld lefel isel iawn o olau artiffisial, felly gallwch weld y sêr a'r planedau yn well yma nac unrhyw le arall! Y SEFYDLIAD AWYR DYWYLL RHYNGWLADOL sydd yn penderfynu pa ardaloedd sy'n haeddu'r statws yma.

Pwysigrwydd Gwarchodfeydd Awyr Dywyll

  • Mae 60% o fywyd gwyllt a phlanhigion yn dibynnu ar dywyllwch i fyw!
  • Mae'r tywyllwch yn gallu hybu iechyd a lles pobl hefyd!
  • Gall gormod o olau artiffisial waethygu cynhesu byd-eang!
  • Maent yn cynnig lle i ymchwilwyr ddysgu mwy am y gofod a'r sêr!
  • Gall ddenu twristiaid i weld y sêr, a felly dod ac arian i'r ardal!

OND HEFYD:

  • Gall leihau risg o gancr drwy helpu cadw lefel yr hormon 'melatonin' (hormon cwsg) yn iach.
  • Gall wella iechyd ein llygaid drwy gael gwared â golau artiffisial.

Fel y dywedwyd ynghynt, mae gwarchodfeydd awyr dywyll yn gallu bod yn dda i'n hiechyd a'n lles:

Pam fod y Warchodfa yn bwysig i ni yng Nghymru?
  • Sicrhau ein bod yn pwyntio goleuadau artiffisial am i lawr.
  • Gwneud yn siwr ein bod yn defnyddio golau pen dim ond pan oes ei angen pan allan gyda'r nos.
  • Cau'r lleni i gadw golau tai y tu fewn.
  • Ymweld â gwarchodfeydd er mwyn eu cefnogi.
  • Addysgu pobl eraill am beryglon golau artiffisial!

Sut i warchod ein hawyr dywyll?

Mae sicrhau bod ein Gwarchodfeydd Awyr Dywyll yn ddiogel yn gyfrifoldeb ARNOM I GYD. Gallwn helpu'r achos drwy:

Digwyddiadau cosmig

Os yn lwcus iawn, gallwch hyd yn oed weld digwyddiadau cosmig, fel goleuadau'r gogledd neu gawod feteor!

Y Sêr a'r Planedau

Mae'n bosib gweld dros fil o sêr yn y Parc Cenedlaethol yn Eryri pan mae hi'n noson glir! Hefyd, gallwch weld y llwybr llaethog a'r planedau agosaf i ni!

Bywyd Gwyllt

Mae nifer o anifeiliaid a phlanhigion Cymreig yn dibynnu ar y tywyllwch. Mae sawl rhywogaeth o greaduriaid y nos fel ystlumod, tylluanod a draenogod yn boblogaidd yn y warchodfa!