Want to create interactive content? It’s easy in Genially!

Reuse this genially

S4C 1980au - Hollti Barn

Luned Hughes

Created on February 11, 2024

Start designing with a free template

Discover more than 1500 professional designs like these:

Transcript

Cliciwch ar wynebau'r unigolion isod i gael darllen eu barn nhw am sefydlu sianel newydd Gymraeg...

Pam sefydlu s4c?

Gwynfor Evans

Ceri Samuel

Robin Rollinson

Mr W Smith

Tomos a'i Fam

Miss Griffiths

Darllenwch farn yr unigolion yma ar pam y dylai sianel Gymraeg gael ei chreu.

Cliciwch ar wynebau'r unigolion isod i gael darllen eu barn nhw am sefydlu sianel newydd Gymraeg...

Pam NA DDYLEM SEFYDLU s4c?

Margaret Thatcher

Nicholas Edwards

William Whitelaw

Mrs J Owen

George Howard

Miss Hoyle

Darllenwch farn yr unigolion yma ar pam y dylai sianel Gymraeg gael ei chreu.

Fi yw pennaeth y BBC yn yr 1980au. Beth oes gan y sianel newydd yma i'w gynnig nad ydym ni yn ei raglennu yn barod y 'sgwn i? Oes aiff y cynlluniau yn eu blaen, mi fydd dwsinau ohonom ni yn gorfod torri lawr ar ein cyflogau, neu efallai colli swyddi yn gyfan gwbl! Ydi hynny o werth er budd ryw ychydig filoedd o bobl?

Bydd rhai ohonom yn colli arian a swyddi!

Roeddwn i yn cefnogi sianel newydd i'r Cymry ar y dechrau, ond nawr rwy'n teimlo mai testun chwerthin yw'r holl beth! Roedd yn syniad da, ond doedd o ddim werth y protestio hurt yma! Dringo i fyny mastiau, cymryd grisiau swyddfeydd Caerdydd drosodd, creu reiat yn yr Eisteddfod! Beth nesaf! Dydw i ddim am adael i fy hun gael fy nghysylltu a pobl fel yna, felly ni fyddaf yn cefnogi S4C o hyn ymlaen yn anffodus!

Mae'r protestwyr wedi mynd yn rhy bell!

Bydd S4C yn cynnig llawer o raglenni yn Gymraeg i blant! Mae hyn yn bwysig i mi oherwydd dydw i ddim yn deall llawer o Saesneg, felly er fod rhaglenni'r BBC yn dda, mi fyddaf i yn teimlo yn fwy cyfforddus gwylio rhywbeth Cymraeg! Bydd plant y dyfodol hefyd yn gallu eu gwylio a clywed mwy o'r Gymraeg felly byddant yn dod yn fwy hyderus yn yr iaith.

Bydd yn bwysig i blant!

Mae pobl yn fy ngyrru i'n wallgo! Mae llawer o bethau angen eu gweithredu gennym ni fel llywodraeth yn yr 80au, a tydw i ddim yn meddwl fod sefydlu sianel deledu newydd yn un o'r pethau pwysicaf i brotestio drosto! Mae gennym ni ormod ar ein plat nawr, rydym ni yn rhy brysur i boeni am fater mor fach a rhaglen deledu i'r Cymry Cymraeg!

Mae'n ormod o ffys!

Rwy’n teimlo’n falch iawn dros bawb oedd yn dymuno cael sianel Gymraeg ac rwy’n falch hefyd dros bawb, fel fi, oedd yn gwrthwynebu’r sianel oherwydd rwyf wedi sylweddoli y byddaf yn elwa’n bersonol o’r sianel Gymraeg. Nid fy mod i’n bwriadu ei gwylio, ond mae ei sefydlu yn golygu y bydd pob rhaglen Gymraeg oedd ar BBC ac ITV cyn heno yn cael eu symud i’r sianel newydd ac ni fydd rhaid i mi eu dioddef byth eto! Yn wir, byddaf yn medru gwylio mwy o raglenni Saesneg ar y ddwy sianel o hyn ymlaen gan y bydd rhaglenni Saesneg newydd yn cymryd lle’r rhaglenni Cymraeg oedd ar y BBC, felly fydd ddim rhaid i neb wylio rhywbeth mewn iaith wahanol.

Mae'n well i bobl sydd ddim eisiau rhaglenni Cymraeg hefyd!

Bydd yn peryglu ein plant!

Buasai sianel Gymraeg yn hunllef i'n system addysg ni yng Nghymru! Yn hytrach na dysgu plant sut i ysgrifennu Cymraeg yn safonol, byddant yn clywed Cymraeg gydag acenion ofnadwy ar y teledu ac ar sioeau sothach! Ni fydd unrhyw un yn gwybod sut i dreiglo'n gywir na ffurfio'r gystrawen briodol! Hollol hurt! A beth am y cynnwys? Mae teledu y dyddiau yma i gyd am drais a ffraeo beth bynnag - pa hawl sydd gan bobl i wneud i'n plant ni wylio y ffasiwn bethau?

Bydd yr iaith yn fwy cŵl!

Yn fy marn i, mae'n rhaid i sianel fel S4C gael ei sefydlu, oherwydd mae'n rhaid i'r iaith Gymraeg gael ei gweld ar lefel fodern. Dydi'r Gymraeg ddim yn iaith sydd ddim ond i fodoli mewn llyfrau hanes, mae'n rhaid gwneud yn siwr ein bod yn ei defnyddio yn y byd heddiw. Os yw pobl yn gweld ein bod yn creu rhaglenni ac adloniant o safon drwy'r Gymraeg, mae'n bosib y byddant yn fwy tebygol o geisio ei deall!

Bydd yn costio gormod!

Mae'n rhaid i ni gofio un peth hollbwysig. Y treth-dalwyr, pobl gyffredin y wlad fydd yn talu am S4C! Meddyliwch faint o bethau gwahanol ac, yn wir, pwysicach y gallwn wario ein harian arnynt na sianel deledu! Beth am ein system addysg, ein gwasanaeth iechyd neu ein cludiant cyhoeddus? Onid yw'r pethau yma yn llawer pwysicach, ac yn effeithio ar fwy o bobl na sianeli teledu? Rhaid i ni flaenoriaethu yn gall!

Mae'r Cymry Cymraeg yn gweiddi i gael sianel ein hunain ers blynyddoedd! Buasai sianel Gymraeg yn rhoi cyfle i ni gael adloniant yn ein iaith ein hunain gan ein pobl ein hunain, heb orfod dibynnu ar Saesneg. Buasai yn mynd yn erbyn y drefn ddemocrataidd yn y wlad yma os fuasai Llywodraeth Llundain yn dweud na chawn sianel ein hunain - ni fuasai hynny yn deg o gwbl, a buasai llawer o bobl yn dechrau ffraeo dros y peth!

Mae pobl Cymru eisiau S4C!

Rydw i wedi cael llond bol ar yr holl gwyno yma. Pam yn wir fod rhaid i bobl sydd yn siarad Cymraeg gael eu sianel eu hunain? Mae llawer llai ohonyn nhw o'u cymharu gyda faint sydd yn siarad Saesneg, ac mae nhw oll yn gallu siarad Saesneg beth bynnag, felly fe ddylen nhw stopio swnian! Dwi'n siwr y buasai unrhyw raglenni ar S4C yn llawer gwaeth na'r rhai ar y BBC, ond, wedi meddwl am y peth...mi fuasai'n braf peidio gorfod gwrando ar ryw iaith wahanol yng nghanol fy hoff raglenni BBC Saesneg...

Pam? Mae pawb yn siarad Saesneg beth bynnag...

Bydd yn hwb i wybodaeth

Buasai sianel Gymraeg yn cynnig cymaint o bethau tuag at addysg ein plant! Buasai ffordd o greu rhaglenni am hanes, diwylliant a chwaraeon Cymru, heb orfod cyfieithu o'r Saesneg neu peidio eu cael o gwbl! Buasai S4C hefyd yn ffordd dda o berswadio fy nosbarth i siarad am bethau Cymraeg - efallai operau sebon neu y Newyddion diweddaraf! Rydw i yn edrych ymlaen yn fawr!

Rydw i yn gyfarwyddwr ar raglenni Cymraeg i'r BBC ar hyn o'r bryd, fel Pobl y Cwm ac ati. Buasai cael sianel newydd annibynnol efo llawer o raglenni newydd yn cynnig swydd ac arian i lawer o bobl fel fi! Rydw i yn adnabod llawer o weithwyr camerau ac actorion fuasai mor hapus i gael cyfle i weithio yn eu hiaith eu hunain trwy'r amser, a cael pres am wneud hynny! Mae angen llawer o bobl i greu un rhaglen. Meddyliwch cymaint fuasai'n cael cyfleoedd gwell drwy hyn!

Bydd yn cynnig gwaith i lawer o bobl!