Want to make creations as awesome as this one?

Transcript

"Mae’r amser cyn fy mislif i’n effeithio ar hyfforddiant a pherfformiad, unwaith rydw i ar [y mislif] dim ond anghyfleustra’r gwaedu ydi e wedyn"

"Fe fyddai’n well gen i fwyta siocled a gwylio’r teledu ar y soffa"

“methu gweithredu”, “teimlo’n wael”, a “swrth yn ystod hyfforddiant”

"Rydych chi eisiau teimlo'n hyderus iawn ac yn wirioneddol egnïol a phan rydych chi ar eich mislif rydych chi'n teimlo braidd yn ddi-ffrwt a dydych chi ddim, rydw i'n teimlo nad ydw i'n codi cystal ag y dylwn i ei wneud ar ddiwrnod arferol felly byddai hynny’n bryder a dydw i ddim yn meddwl y byddai’r pryder hwnnw’n helpu ar gyfer cystadleuaeth"

“Mae'r diwrnod cyntaf bob amser yn eithaf gwael, rydw i'n teimlo'n ofnadwy”

“Felly rydych chi bob amser yn meddwl, ‘o Iesu, ydw i wedi gwaedu drwy fy nillad’ felly mae’r paranoia yna o waed yn gollwng drwy ddillad yn ofnadwy ac yn tynnu eich sylw chi, mae’n beth arall i ymdopi ag o”

“Os ydw i'n teimlo'n wael neu heb unrhyw gymhelliant, fe fydda’ i’n torri'r sesiwn ac yn symud yr hyfforddiant i ddiwrnod arall, ac yn lle’r sesiwn fe fydda’ i’n gwneud rhywbeth actif ond heb fod angen llawer o egni. Fe fydda’ i’n lleihau’r holl bethau pwerus am nad ydw i mor gryf ar yr amser hwnnw oherwydd dydw i ddim yn teimlo felly. "