Welsh Copy - Types of information
Nadine Wood
Created on August 27, 2024
More creations to inspire you
Transcript
Cynllunio eich Cwestiynau
Cwestiynau Agored
Cwestiynau Caeedig
Cwestiynau Dewis Lluosog
Cyn dechrau, nodwch pa fath o wybodaeth yr hoffech ei chasglu o'ch holiadur. Beth yw eich prif amcan? Geiriwch eich cwestiynau’n ofalus fel bod y sawl sy’n ateb yn deall amcan yr holiadur.
Cwestiynau Graddio
Mae cwestiynau penagored yn caniatáu i'r ymatebwyr roi ymatebion yn eu geiriau eu hunain. Gall hyn gynhyrchu sylwadau nad oeddech wedi meddwl amdanynt, gan wneud yr ymchwil yn fwy gwreiddiol a gwerthfawr. Fodd bynnag, gall canlyniadau fod yn anodd eu cyflwyno a'u dadansoddi gan eu bod yn cynnwys data anstrwythuredig.
Mae angen ateb un gair ar gyfer cwestiynau caeedig er enghraifft - ie neu na. Fe'u defnyddir fel arfer mewn ymchwil meintiol i gasglu gwybodaeth ystadegol gan ymatebwyr.
Mae'r rhain yn cynnwys detholiad o atebion i ddewis ohonynt. Os oes gormod o ddewisiadau gall hyn atal ymatebwyr rhag ateb yr holiadur.
Cyfeirir at y rhain hefyd fel cwestiynau sgorio; maent yn cyflwyno opsiwn i ymatebwyr raddio'r atebion sydd ar gael i gwestiynau ar raddfa'r ystod benodol o werthoedd (er enghraifft o 1 i 10). Maent yn hawdd eu dadansoddi ac yn darparu data meintiol sy'n darparu cyfoeth o wybodaeth.