Want to make creations as awesome as this one?

Transcript

Drwy gydol y rhaglen hon, rydym wedi darganfod beth yw fferm wynt ar y môr, sut y caiff ei hadeiladu, a sut mae’n gweithio.

Ynni gwynt arnofiol

Cydnabyddiaeth am y llun:TetraSpar Demonstrator ApS.

Dull o gynhyrchu ynni glân ac adnewyddadwy gan ddefnyddio'r gwynt ar y môr yw ynni gwynt arnofiol. Mae’n defnyddio technoleg debyg i dyrbinau gwynt ar y môr confensiynol a gaiff eu gosod heddiw.Fodd bynnag, tra caiff y tyrbinau hynny eu gosod yn sownd yng ngwely’r môr, caiff y tyrbinau hyn eu gosod ar ben sylfaen sy'n arnofio. Mae’r sylfeini hyn yn cynnig hynofedd a sefydlogrwydd, ac maent ar gael mewn amrywiaeth o ddyluniadau sy'n addas ar gyfer gwahanol leoliadau.Caiff ynni gwynt arnofiol ei ystyried yn dechnoleg lai aeddfed ar hyn o bryd o gymharu ag atebion a gaiff eu gosod yn sownd yng ngwely’r môr, ac mae’n arwain at gostau uwch hefyd.Serch hynny, mae amcanestyniadau'n awgrymu y bydd y costau hyn yn lleihau'n gyflym, gan wneud ynni gwynt arnofiol yn gymharol gystadleuol o ran costau erbyn 2030.Gwyliwch y fideo hwn, sy'n edrych ar ynni gwynt arnofiol mewn mwy o fanylder:

Beth yw ynni gwynt arnofiol?

Sut mae tyrbinau gwynt arnofiol yn arnofio?

Mae sylfaen arnofiol a thyrbin yn pwyso miloedd o dunelli, ond mae angen iddynt fod yn unionsyth ac yn hynawf drwy'r amser! Ar y cyfan, caiff pum ‘math’ o sylfeini eu defnyddio:

  1. Bwi ceibren
  2. Gwrthbwys crog
  3. Ysgraff
  4. Lled-ymsuddol
  5. Llwyfan coes tyniant.

Beth yw manteision ynni gwynt arnofiol?

Gwyliwch y fideo hwn sy'n esbonio’r gwahanol sylfeini:

Sut mae tyrbinau gwynt ar y môr yn aros yn eu lle?

Cliciwch yma cyn gwylio

Sut y caiff prosiectau ynni gwynt arnofiol eu hadeiladu?

Cliciwch yma cyn gwylio

Mae adeiladu prosiect ynni gwynt arnofiol yn cymryd llawer o gynllunio a gwaith!Caiff y sylfeini arnofiol eu ffurfio'n bennaf o ddur neu goncrit; fel arfer, cânt eu saernïo a'u cydosod ar safle cei porthladdoedd mawr gan ddefnyddio craeniau a pheiriannau codi trwm, a chaiff cydrannau’r tyrbin gwynt fel arfer eu gweithgynhyrchu yn rhywle arall a'u cludo i’r porthladd.Gallwch weld y prif gamau adeiladu sy'n rhan o’r broses yn y fideo:

Nid yw cwmni ynni gwynt ar y môr RWE am i dyrbinau ddrifftio i ffwrdd o'u safleoedd, felly rhaid i’r cwmni sicrhau eu bod yn aros yn eu lle. Caiff tyrbinau arnofiol eu dal yn eu lle gan ddefnyddio ‘system cadw gorsafoedd’, sydd wedi’i ffurfio o linellau angori ac angorau.Mae gan lawer o'r dechnoleg a gaiff ei defnyddio mewn system cadw gorsafoedd ynni gwynt arnofiol hanes hir o gael ei defnyddio yn y diwydiannau morgludiant ac olew a nwy. Felly, mae llawer o brofiad ac arbenigedd eisoes ar gael, ond bydd ynni gwynt arnofiol ar y môr yn cyflwyno ei heriau penodol ei hun y bydd angen mynd i’r afael â nhw.Edrychwch ar yr animeiddiad sy'n esbonio’r broses ar gyfer cadw tyrbinau arnofiol yn eu lle.

Mynediad i ddyfroedd dyfnachGellir defnyddio tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr mewn dyfroedd dyfnach lle nad yw'n ymarferol defnyddiol adeileddau â gwaelod gosodedig. Mae hyn yn cynyddu nifer y safleoedd posibl ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr, gan alluogi datblygwyr i fanteisio ar adnoddau gwynt ymhellach allan i’r môr lle y bydd y gwynt yn gyflymach ac yn fwy cyson fel arfer.

Helpu i gyflawni sero net yn fyd-eangDrwy gynhyrchu trydan gan ddefnyddio’r gwynt, mae tyrbinau arnofiol cwmni ynni gwynt ar y môr RWE yn helpu i leihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil ar gyfer cynhyrchi ynni. Mae'r trawsnewidiad hwn i ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hanfodol er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lliniaru newid hinsawdd, gan gyfrannu yn y pen draw at gyflawni'r nod o sicrhau allyriadau sero net yn fyd-eang.

Llai o effaith amgylcheddolYn wahanol i dyrbinau â gwaelod gosodedig, nid oes angen i dyrbinau gwynt arnofiol ar y môr fod ar sylfeini helaeth yng ngwely’r môr, sy'n gallu tarfu ar ecosystemau a chynefinoedd morol yn ystod y prosesau gosod a datgomisiynu. Gan eu bod yn arnofio ar wyneb y dŵr, mae'r tyrbinau hyn yn cael llai o effaith amgylcheddol ar wely’r môr a bywyd morol. Hefyd, gellir eu hadleoli neu eu symud ymaith yn hawdd, gan leihau eu hôl troed ecolegol hirdymor.