Want to create interactive content? It’s easy in Genially!

Get started free

Welsh - 6.2 - Application Process

Springpod Team

Created on July 2, 2024

Start designing with a free template

Discover more than 1500 professional designs like these:

Transcript

Israddedigion
Prentisiaethau
Rhaglen Ynni Adnewyddadwy RWE i Raddedigion

Y Broses Gwneud Cais

Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd y rhan fwyaf o raglenni prentisiaeth cwmni ynni gwynt ar y môr RWE ar agor ar gyfer ceisiadau, ond caiff rhai cyfleoedd eu hysbysebu'n amlach na hynny. Ewch i dudalen chwilio am swyddi RWE i weld beth sydd ar gael nawr, neu dilynwch y dolenni yn yr adran flaenorol er mwyn cael gwybod pryd y gallwch ddechrau gwneud cais. Ar ôl i chi ddod o hyd i gyfle sydd o ddiddordeb i chi, bydd y cam cyntaf yn syml – cliciwch ar ‘apply’, a fydd yn eich galluogi i roi eich holl fanylion a lanlwytho llythyr eglurhaol a CV. Cofiwch wneud cais cyn y dyddiad cau (bydd y dyddiad hwn ar yr hysbyseb swydd!) Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam nesaf, cewch alwad ffôn yn eich gwahodd i ganolfan asesu. Erbyn hynny, bydd pawb a oedd yn aflwyddiannus yn y broses wedi cael gwybod hynny. Y cam nesaf (ar gyfer prentisiaeth technegydd tyrbinau) fydd cael hyfforddiant Gweithio ar Uchder y Sefydliad Gwynt Byd-eang (GWO) gan un o ddarparwyr hyfforddiant RWE ac asesiad ffitrwydd ar y môr er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn addas ar gyfer y swydd. Cysylltir â chi i roi gwybod i chi p’un a ydych wedi cael y rôl ai peidio ac, os felly, caiff y dyddiad dechrau ei gadarnhau. Edrychwch ar awgrymiadau defnyddiol RWE ar gyfer gwneud cais am le ar gynllun prentisiaeth:

Mae’r broses gwneud cais ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy RWE i Raddedigion yn cynnwys sawl cam gwahanol. Ar ôl i chi wneud cais, bydd y camau fel a ganlyn: cam dethol ymlaen llaw (prawf ar-lein), cyfweliad, gwahoddiad i ganolfan asesu, a chanolfan asesu (ar-lein). Efallai y byddwch yn meddwl tybed beth sy'n digwydd mewn canolfan asesu. Proses werthuso gynhwysfawr a strwythuredig ar gyfer asesu sgiliau, galluoedd ac addasrwydd ymgeiswyr am rolau penodol yw canolfan asesu. Fel arfer, bydd y ganolfan asesu'n cynnwys cyfuniad o brofion, cyfweliadau, ymarferion a gweithgareddau i unigolion a grwpiau er mwyn asesu amrywiol agweddau ar botensial ymgeisydd. Mewn canolfan asesu, bydd yn bwysig iawn eich bod yn dangos eich gwybodaeth am y cwmni a’ch sgiliau! Yn ein modiwl cyflogadwyedd, byddwn yn edrych ar rai o’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd fel y ganolfan asesu.

Ar gyfer lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant i israddedigion, bydd y broses gwneud cais yn debyg i brentisiaethau a rhaglenni i raddedigion. Byddwch yn cyflwyno eich cais (bydd y dyddiad cau yn dibynnu ar y lleoliad), a byddwch yn symud drwy’r camau cyfweliad dilynol. Edrychwch ar y gwahanol leoliadau sydd ar gael yng nghwmni ynni gwynt ar y môr RWE.