Want to create interactive content? It’s easy in Genially!
Copy - 2.2 - Introduction to RWE
Springpod Team
Created on July 2, 2024
Start designing with a free template
Discover more than 1500 professional designs like these:
Transcript
Ynni adnewyddadwy
RWE Supply & Trading
Cynhyrchu pŵer
RWE Supply & Trading, sef cwmni cyflenwi a masnachu RWE, yw’r bont rhwng RWE a marchnadoedd ynni byd-eang. Gyda thîm amrywiol o fwy na 2,000 o bobl o 70 o wledydd, mae RWE yn gweithredu o Essen, Llundain, Efrog Newydd, Singapore a Tsieina. Mae'n arbenigo mewn masnachu trydan, nwy, nwyddau, a lwfansau CO₂, gan gynnig atebion ynni a rheoli risg wedi'u teilwra i gleientiaid diwydiannol.
RWE Supply & Trading
Mae RWE wedi bod yn canolbwyntio fwyfwy ar ehangu ei bortffolio ym maes ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cwmni ynni gwynt ar y môr RWE yn perthyn i’r rhan hon o’r busnes sydd, yn fwy cyffredinol, yn ymwneud â datblygu, adeiladu a gweithredu ffermydd gwynt, gorsafoedd ynni solar, a phrosiectau ynni cynaliadwy eraill.
Ynni adnewyddadwy
Mae RWE yn ymwneud â chynhyrchu trydan o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys tanwyddau ffosil confensiynol (fel glo, nwy naturiol, a lignit), yn ogystal â ffynonellau adnewyddadwy fel ynni gwynt, solar a thrydan dŵr.