Want to create interactive content? It’s easy in Genially!
Welsh - 4.4 - Conservation and Environmental Protection
Springpod Team
Created on July 2, 2024
Start designing with a free template
Discover more than 1500 professional designs like these:
Transcript
Pysgodfeydd
Rheoli cynefinoedd/tirweddau
Bywyd morol
Drwy ymgyngoriadau, gall datblygwyr yng nghwmni ynni gwynt ar y môr RWE ddysgu am batrymau a llwybrau pysgota, gan eu galluogi i leoli tyrbinau mewn ffordd sy'n ymyrryd cyn lleied â phosibl â gweithrediadau pysgota ac yn sicrhau diogelwch. Ar y cyfan, mae ymgynghori â physgodfeydd lleol yn golygu mwy nag osgoi effeithiau negyddol yn unig; mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfleoedd am gydweithio cadarnhaol rhwng datblygwyr ynni gwynt ar y môr a rheolwyr adnoddau morol, gan sicrhau y gall prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a ffyrdd o ennill bywoliaeth ar y môr gyd-fodoli mewn modd cynaliadwy.
Un ystyriaeth amgylcheddol wrth ddatblygu prosiect fferm wynt ar y môr yw sicrhau bod y datblygiadau'n gynaliadwy ac yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ecosystemau presennol y môr a bywoliaeth defnyddwyr y môr. Er enghraifft, gallai’r broses o adeiladu tyrbinau a'u presenoldeb yn y môr newid ceryntau dŵr, gan effeithio ar fannau claddu wyau a gwasgari ad rhywogaethau morol. Mae cwmni ynni gwynt ar y môr RWE yn ymgynghori â physgodfeydd lleol er mwyn darganfod cynefinoedd hollbwysig a galluogi datblygwyr i ddylunio prosiectau sy'n tarfu cyn lleied â phosibl arnynt. Gall lleoliad tyrbinau gwynt hefyd effeithio ar lwybrau mordwyo ar gyfer cychod pysgota, gan arwain at bryderon diogelwch o bosibl.
Mewn geiriau eraill, gall y dechnoleg fod yn fodd i adnabod a thracio mamaliaid morol, er mwyn gallu deall eu symudiadau a'u hymddygiadau yn agos at ffermydd gwynt arnofiol yn well.Gall y wybodaeth hon fod yn sail ar gyfer mesurau lliniaru i amddiffyn mamaliaid morol rhag niwed!Rheoli cynefinoedd/tirweddau
Mae cwmni ynni gwynt ar y môr RWE bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o sicrhau y bydd datblygu prosiectau ar y môr yn cael cyn lleied â phosibl o effaith ar fywyd morol yr ardal gyfagos.Y llynedd, gwnaeth y cwmni lansio “Cystadleuaeth Cyd-ddefnyddio Ynni Gwynt Arnofiol” fyd-eang am y tro cyntaf, gyda’r nod o ddod o hyd i atebion arloesol a fydd yn galluogi ffermydd gwynt arnofiol i gyd-fodoli'n gytûn â gweithgareddau morol a hybu bioamrywiaeth. Cyhoeddwyd mai egin gwmni o'r enw Indeximate Ltd, a sefydlwyd yn y DU yn 2022, oedd yr enillydd ym mis Chwefror 2024. Awgrymodd y cwmni ateb a oedd yn edrych ar wneud gwaith cynnal a chadw ataliol ar geblau tanfor, gan fonitro traffig cychod a llongau a'r amgylchedd tanddwr ar yr un pryd ac, felly, ffurfio darlun o batrwm ecoleg bywyd morol mewn ffermydd gwynt ar y môr.
Mae cwmni ynni gwynt ar y môr RWE yn ceisio tarfu cyn lleied â phosibl ar gynefinoedd drwy gynllunio mesurau lliniaru a'u rhoi ar waith yn ofalus. Mae hyn yn golygu cydweithio'n agos ag ymgynghorwyr ecoleg a chynnal arolygon cynhwysfawr ar hyd llwybrau arfaethedig ceblau ar y tir a safleoedd arfaethedig is-orsafoedd er mwyn dod o hyd i gynefinoedd naturiol a rhywogaethau y gallai gweithgareddau adeiladu effeithio arnynt. Yn seiliedig ar ganfyddiadau arolygon, gellir rhoi dulliau adeiladu arbennig ar waith mewn ardaloedd o bwysigrwydd ecolegol uchel er mwyn lleihau'r tarfu i'r eithaf. Rheoli tirweddau Mae cwmni ynni gwynt ar y môr RWE yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau er mwyn lleihau'r tarfu ar dirweddau.
Un enghraifft o hyn yw dewis claddu ceblau o dan y ddaear yn hytrach na defnyddio peilonau a llinellau uwchben er mwyn gwarchod y dirwedd naturiol a lleihau'r effaith weledol. Hefyd, ar ôl cwblhau gwaith gosod ceblau ar y tir, bydd y ffocws yn newid i ddychwelyd y tir i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn y gwaith adeiladu. Bydd monitro parhaus yn sicrhau llwyddiant ymdrechion adfer dros amser. Ar y cyfan, mae’r mesurau rhagweithiol hyn yn dangos ymrwymiad i darfu cyn lleied â phosibl ar dirweddau a gwarchod bioamrywiaeth yn ystod camau adeiladu a gweithredu prosiectau ar y môr.