Want to create interactive content? It’s easy in Genially!
Yr Awyr Dywyll - Darllen a Deall
Luned Hughes
Created on March 24, 2024
Start designing with a free template
Discover more than 1500 professional designs like these:
View
Halloween Infographic
View
Halloween List 3D
View
Magic and Sorcery List
View
Journey Map
View
Versus Character
View
Akihabara Connectors Infographic Mobile
View
Mobile mockup infographic
Transcript
Yr Awyr Dywyll
Cliciwch ar bob rhif i ddarganfod mwy...
4. PAM EU BOD YN BWYSIG I NI?
2.Pam eu bod mor bwysig?
3.BETH WELWCH CHI YNO?
1. Beth yw gwarchodfa awyr dywll?
5. SUT I WARCHOD EIN HAWYR DYWYLL
6.GWYLIWCH A THRAWSIEITHWCH Y FIDEO
Gwarchodfa Awyr Dywyll
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gartref i un o'r 21 GWARCHODFA AWYR DYWYLL yn y byd! Mae hyn yn golygu eu bod yn lefydd sydd yn gweld lefel isel iawn o olau artiffisial, felly gallwch weld y sêr a'r planedau yn well yma nac unrhyw le arall! Y SEFYDLIAD AWYR DYWYLL RHYNGWLADOL sydd yn penderfynu pa ardaloedd sy'n haeddu'r statws yma.
A WYDDOCH CHI?
- Mae 3 Gwarchodfa Awyr Dywyll yng Nghymru!
- Mae'r Parc Cenedlaethol yn 2,132km sgwâr!
- Gallwch weld dros 1,000 o sêr ar noson glir yn Eryri!
Pwysigrwydd Gwarchodfeydd Awyr Dywyll
- Mae 60% o fywyd gwyllt a phlanhigion yn dibynnu ar dywyllwch i fyw!
- Mae'r tywyllwch yn gallu hybu iechyd a lles pobl hefyd!
- Gall gormod o olau artiffisial waethygu cynhesu byd-eang!
- Maent yn cynnig lle i ymchwilwyr ddysgu mwy am y gofod a'r sêr!
Pam fod y Warchodfa yn bwysig i ni yng Nghymru?
Fel y dywedwyd ynghynt, mae gwarchodfeydd awyr dywyll yn gallu bod yn dda i'n hiechyd a'n lles:
- Gall leihau risg o gancr drwy helpu cadw lefel yr hormon 'melatonin' (hormon cwsg) yn iach.
- Gall wella iechyd ein llygaid drwy gael gwared â golau artiffisial.
OND HEFYD:
- Gall ddenu twristiaid i weld y sêr, a felly dod ac arian i'r ardal!
Sut i warchod ein hawyr dywyll?
Mae sicrhau bod ein Gwarchodfeydd Awyr Dywyll yn ddiogel yn gyfrifoldeb ARNOM I GYD. Gallwn helpu'r achos drwy:
- Sicrhau ein bod yn pwyntio goleuadau artiffisial am i lawr.
- Gwneud yn siwr ein bod yn defnyddio golau pen dim ond pan oes ei angen pan allan gyda'r nos.
- Cau'r lleni i gadw golau tai y tu fewn.
- Ymweld â gwarchodfeydd er mwyn eu cefnogi.
- Addysgu pobl eraill am beryglon golau artiffisial!
Mae nifer o anifeiliaid a phlanhigion Cymreig yn dibynnu ar y tywyllwch. Mae sawl rhywogaeth o greaduriaid y nos fel ystlumod, tylluanod a draenogod yn boblogaidd yn y warchodfa!
Bywyd Gwyllt
Mae'n bosib gweld dros fil o sêr yn y Parc Cenedlaethol yn Eryri pan mae hi'n noson glir! Hefyd, gallwch weld y llwybr llaethog a'r planedau agosaf i ni!
Y Sêr a'r Planedau
Os yn lwcus iawn, gallwch hyd yn oed weld digwyddiadau cosmig, fel goleuadau'r gogledd neu gawod feteor!